Twrch Trwyth

Baedd gwyllt chwedlonol yw’r Twrch Trwyth, sy’n cael ei gysylltu’n benodol â stori Culhwch ac Olwen. Mae’r stori hon, sy’n ffurfio rhan o gasgliad o chwedlau sy'n cael eu hadnabod fel y Mabinogi, yn adrodd hanes dyn ifanc, Culhwch, sy’n gorfod perfformio cyfres o dasgau amhosibl er mwyn creu argraff ar Ysbaddaden Bencawr, y cawr blin, sef tad Olwen, cariad Culhwch.

Y dasg fwyaf ac anoddaf yw adennill y crib, y rasel a’r gwellau hud, sydd rhwng clustiau’r Twrch Trwyth, a dod â nhw’n ôl i Ysbaddaden (fel y gall eillio ei farf ar gyfer y briodas!).

Gofynna Culhwch am gymorth y Brenin Arthur a’i filwyr ac maen nhw’n cychwyn ar eu taith i Iwerddon i hela’r Twrch Trwyth. Aiff pethau o chwith, fodd bynnag, wrth i’w hymosodiad gynddeiriogi’r Twrch Trwyth, sy’n cychwyn ar daith gyda mintai o’i deulu o faeddod gwyllt ar draws y môr i Brydain, gan adael Culhwch a’i gwmni ar eu holau yn Iwerddon. Pan gyrhaeddant yn ôl i Gymru o’r diwedd, gwelant fod y Twrch Trwyth wedi dial yn gyflym ac yn ddinistriol, gan ddifrodi trefi, pentrefi a chnydau ar draws y wlad.

Ymhen hir a hwyr mae’r milwyr yn dal i fyny efo’r Twrch Trwyth, ac un wrth un mae’r baeddod diefilg yn cael eu lladd, ond mae’r Twrch Trwyth yn rhy gryf. Yn y diwedd, mae’r Brenin Arthur a’r Twrch Trwyth yn brwydro ar ben clogwyn ac yn y pen draw’n syrthio i’r môr, gydag Arthur yn llwyddo i gael gafael ar yr offer trin barf oddi ar yr anifail. Daw Arthur yn ôl i’r lan, a gwylia wrth i’r bwystfil anorchfygol nofio’n ôl ar draws y môr i Iwerddon, gan adael llwybr o ddinistr a chyflafan ar ei ôl.